Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Gohebiaeth mewn cysylltiad â rygbi yng Nghymru

Yn gynharach eleni, yn dilyn adroddiadau ynghylch trafferthion mewn cysylltiad â’r Cytundeb Cymryd Rhan rhwng Undeb Rybgi Cymru a’r pedwar rhanbarth, ysgrifennodd y Pwyllgor lythyr at Undeb Rygbi Cymru, Rygbi Rhanbarthol Cymru ac ysgrifenyddion rhanbarth Undeb Rygbi Cymru yn eu gwahodd i gyflwyno datganiadau ysgrifenedig yn nodi eu safbwyntiau am:

-          y materion sydd wrth wraidd yr anghydfod presennol am y Cytundeb Cymryd Rhan;

-          unrhyw gamau gweithredu sy’n angenrheidiol i sicrhau na fydd sefyllfa o’r fath yn codi eto yn y dyfodol;

-          unrhyw farn neu bryderon ynghylch y trefniadau llywodraethu ac ariannu o ran rygbi yng Nghymru, ac a oes angen gwneud unrhyw welliannau i sicrhau y bydd y gêm yn gynaliadwy yn y tymor hwy.

Rydym wedi ystyried pob ymateb, sy’n gynhwysfawr yn ein barn ni. Er y bu’n gam defnyddiol i ofyn am y safbwyntiau ac i sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd eu gweld, rydym wedi dod i’r casgliad nad oes modd i ni ychwanegu unrhyw bwyntiau pellach at y broses, sydd eisoes wedi dechrau.

Er bod llawer wedi cael ei nodi am y gwahaniaethau rhwng y ddwy ochr dros y misoedd diwethaf, rydym yn sylweddoli bod pethau wedi symud ymlaen ers i ni ofyn am safbwyntiau yn y lle cyntaf. Yn benodol, ymddengys bod cynnydd yn digwydd o ran cymryd rhan mewn cystadlaethau Ewropeaidd yn y dyfodol, a gobeithio y gellir dod i gytundeb yn hyn o beth yn fuan. Gobeithio hefyd y bydd unrhyw gytundeb newydd yn arwain at berthynas well rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r rhanbarthau yn y dyfodol.